Cyngor Ieithyddol a Meithrin Sgiliau Iaith
Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau ymgynghorol gan gynnwys:
- asesu gallu ieithyddol siaradwyr Cymraeg sy'n gwneud cais am swyddi penodol
- cyngor ar ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle a safonau iaith.
Os hoffech feithrin sgiliau iaith eich tîm, gallwn hefyd baratoi a darparu:
- dosbarthiadau Cymraeg sydd wedi'u teilwra
- cyrsiau a gweithdai gloywi.
Cyfieithu Creadigol, Marchnata ac Ysgrifennu Copi
Gallwn gyfieithu a llunio deunydd creadigol gan gynnwys:
- sgriptiau a barddoniaeth
- copi Cymraeg a/neu Saesneg yn seiliedig ar ofynion y cleient
- sloganau ac ymgyrchoedd marchnata effeithiol sy'n gweithio yn y ddwy iaith.
Trosleisio a Thrawsgrifio
Os byddwch am greu recordiad fideo neu sain gyda thrac Cymraeg a/neu Saesneg ar gyfer fideos corfforaethol, adroddiadau blynyddol, hysbysebion teledu neu radio ac ati, gall Prysg eich helpu. Mae gennym staff cynhyrchu profiadol sydd â chysylltiadau eang â chyflwynwyr o bob rhan o Gymru i ddarparu gwasanaeth trosleisio proffesiynol a phwrpasol o'r safon uchaf.
Gallwn hefyd ddarparu trawsgrifiad o recordiadau sain neu fideo o gyfweliadau ymchwil i flogiau fideo.
Hwyluso Gweithdai a Gwaith Ymchwil
Mae gan Prysg hwyluswyr profiadol i'ch cynorthwyo gydag unrhyw anghenion hyfforddi a datblygu. Gallant hwyluso cyrsiau hyfforddi, gweithdai, seminarau neu gynadleddau a byddant yn barod i deithio i unrhyw ran o Gymru.
Gall ein hymchwilwyr ymgymryd ag astudiaethau ymchwil meintiol ac ansoddol yn ôl yr angen.