Prawfddarllen
Mae prawfddarllen yn ffordd syml, ond effeithiol, o sicrhau bod eich gwaith yn gwbl gywir cyn iddo gael ei gyhoeddi.
Ar y cam 'olaf' hwn caiff eich gwaith ei olygu ar ôl iddo gael ei gysodi. Mae'n gyfle i weld y testun ar ei ffurf derfynol a sicrhau bod unrhyw wallau neu anghysondebau yn cael eu cywiro. Drwy fynd un cam ymhellach gallwch osgoi cryn dipyn o ffws a ffwdan!
Ymhlith ein cleientiaid sy'n defnyddio'r gwasanaeth hwn mae:
- Y BBC (Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon)
- Llywodraeth Cymru
- Cadw
- Principality
- Alcohol Concern.
Mae gan Prysg dîm o olygyddion sy'n ymgymryd â'r elfen hon o'n gwaith. A chofiwch, gallwn hyd yn oed fwrw golwg manwl dros eich copi Saesneg er mwyn sicrhau cywirdeb yn y ddwy iaith.
Gallwch fanteisio ar ein gwasanaeth prawfddarllen ar gyfer unrhyw ddeunydd, p'un a gafodd ei gyfieithu gennym ni'n wreiddiol ai peidio.
Prosiect
Hyfforddiant ar Feddalwedd Cof Cyfieithu Dêjà Vu X (DVX)
Beth a wnaethom
Cynhaliodd Cydgysylltydd Hyfforddiant DVX Prysg gyfres o Weithdai Hyfforddiant DVX ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Cafodd yr hyfforddiant ei gyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhencadlys y Gwasanaeth. Cafwyd cyfarfod rhagarweiniol i drafod y defnydd o Déjà Vu X a'r disgwyliadau o ran hyfforddiant, fel bod modd i'r gweithdai gael eu teilwra i fodloni union ofynion y cleient. O'n profiad ni, ac o adborth cwsmeriaid, credwn mai sawl sesiwn fer sy'n gweithio orau, felly cafodd tri gweithdy eu cynnal dros gyfnod o ychydig fisoedd er mwyn galluogi swyddogion i roi'r hyn a ddysgwyd ar waith a chodi unrhyw gwestiynau yn y gweithdy nesaf. Roedd yr hyfforddiant yn rhyngweithiol ac yn ymarferol ac fe'i strwythurwyd i ganiatáu digon o amser ar gyfer cwestiynau.
Yn ogystal â hyfforddiant DVX mewnol, mae'r Cydgysylltydd hefyd wedi darparu hyfforddiant cychwynnol a hyfforddiant mireinio/uwch i swyddogion o uned gyfieithu Llywodraeth Cymru a'r Asiantaeth Safonau Bwyd, cynnal cyfarfodydd cynghori gyda swyddogion o Lywodraeth Cymru a CBAC ac mae wedi cymryd rhan mewn trafodaeth banel ar feddalwedd cof cyfieithu mewn cynhadledd undydd a gafodd ei threfnu ar y cyd gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor.