Prysg Logo

English
  • Hafan
  • Y Cwmni
     
  • Gwasanaethau
     
  • Astudiaethau
    Achos
  • Staff
     

Un o brif gwmnïau cyfieithu Cymru sydd ag enw da am waith o safon a gwasanaeth heb ei ail

Mae gan Prysg dros 20 mlynedd o brofiad o ddarparu gwasanaethau cyfieithu ysgrifenedig, golygu a phrawfddarllen, yn ogystal â gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gyfer digwyddiadau o bob math yng Nghymru a thu hwnt.

Mae ein cleientiaid yn y sector cyhoeddus yn cynnwys:

  • Llywodraeth Cymru
  • Llywodraeth y DU gan gynnwys
    • Yr Adran Gwaith a Phensiynau
    • Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon
    • Yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd
  • Asiantaeth yr Amgylchedd
  • Swyddfa Archwilio Cymru
  • Comisiynydd y Gymraeg.

Mae ein cleientiaid yn y sector preifat yn cynnwys:

  • Pricewaterhouse Coopers
  • KPMG
  • HSBC
  • Thomson Reuters
  • John Lewis
  • Cymdeithas y Cyfreithwyr.

Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth i gleientiaid yn y trydydd sector e.e.:

  • Macmillan
  • Mudiad Meithrin
  • Ymddiriedolaeth Terrence Higgins
  • Alcohol Concern
  • RNIB
  • British Council.

Rydym yn falch iawn o fod yn un o'r cwmnïau cyntaf a ddaeth yn aelod corfforaethol o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Y Gymdeithas yw ffon fesur y diwydiant cyfieithu yng Nghymru ac mae'n ffynhonnell bwysig i'r rhai sy'n chwilio am wasanaeth o safon.

Nid asiantaeth mo Prysg. Rydym yn gwmni cwbl Gymreig sy'n cyflogi tîm dynodedig o Gymry Cymraeg sy'n arbenigo mewn ystod eang o feysydd. Mae hyn wedi bod yn werthfawr tu hwnt o ran ein harferion gwaith a'n prosesau sicrhau ansawdd.

Cysylltu â ni

email

post@prysg.cymru

phone

029 2130 3949

address

Unit 2 Scott Court Ocean Way
Cardiff CF24 5HF

Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

© Hawlfraint Prysg