Astudiaethau Achos
COI |
Prosiect
Dogfennau gan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd ynglŷn â'r Ymgynghoriad ar y Datganiadau Polisi Cenedlaethol drafft ar gyfer Seilwaith Ynni a'r Ymgynghoriad ar benderfyniadau arfaethedig ar Gyfiawnhad Rheoleiddiol pwerdai niwclear newydd (AP1000 ac EPR)
Beth a wnaethom
Oherwydd maint a natur gymhleth a thechnegol y dogfennau, bu'n rhaid i dîm o uwch gyfieithwyr weithio ar y prosiect hwn. Roedd yr amserlenni'n dynn iawn, felly roedd angen i bob aelod o'r tîm gyd-dynnu i gwblhau'r gwaith cyfieithu a phrawfddarllen yn brydlon. Yn ogystal, lluniwyd rhestr termau ar ddechrau'r prosiect er mwyn sicrhau bod pawb yn defnyddio terminoleg gyson. Roedd modd i aelodau'r tîm ychwanegu at y rhestr ar ôl trafod ymhlith ei gilydd a bu'r tîm yn cyfathrebu'n rheolaidd er mwyn sicrhau cywirdeb a chysondeb. Roedd ein system cof cyfieithu, Déjà Vu X, hefyd yn amhrisiadwy er mwyn sicrhau cysondeb drwy'r prosiect.
Sweet & Maxwell |
Prosiect
Gwefan Business Link
Beth a wnaethom
Bu tîm o bedwar yn ymwneud â chyfieithu a phrawfddarllen gwefan Business Link Llywodraeth y DU, gan sicrhau cysondeb o ran y cyfieithiad a'r fformat. Roedd y gwaith yn galw am gryn dipyn o gywirdeb gan ymdrin â gwybodaeth ariannol a chyfreithiol ac roedd angen sicrhau bod y fersiwn Cymraeg yn berthnasol i Gymru. O ganlyniad i faint a chynnwys y prosiect roedd angen bod yn drefnus iawn a chydweithiodd y tîm cyfieithu a'r staff gweinyddol er mwyn dychwelyd y gwaith ar amser. Yn dilyn hynny, gofynnodd y cleient i ni gyfieithu diwygiadau a wnaed i'r gwaith ac, unwaith eto, roedd yr un tîm craidd o gyfieithwyr yn gyfrifol am hyn.
BBC |
Prosiect
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon
Beth a wnaethom
Rydym wedi bod yn cyfieithu ac yn prawfddarllen Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC ers dros 10 mlynedd bellach, ac wedi llwyddo i ddarparu cyfieithiadau o safon uchel yn unol ag amserlenni tynn iawn bob tro. Mae'r BBC yn defnyddio termau ac ymadroddion penodol sy'n wahanol i'r rhai rydym fel arfer yn defnyddio ar gyfer gwaith cleientiaid eraill, felly rydym wedi hen arfer â bodloni eu gofynion. Mae diwygiadau sylweddol yn cael eu gwneud i'r fersiynau Saesneg ar gam hwyr yn y broses, sy'n galw am gryn dipyn o waith trefnu a llygad craff ar ein rhan ni. O ganlyniad i'r amserlenni tynn, mae llawer o gyfieithwyr yn gweithio fel tîm i gwblhau'r gwaith, sy'n galw am sgiliau cyfathrebu da er mwyn sicrhau cywirdeb a chysondeb, wrth gyfieithu ac wrth brawfddarllen.
Hybu Cig Cymru |
Prosiect
Ymgyrch Hybu Cig Oen a Chig Eidion Cymru
Beth a wnaethom
Gofynnwyd i ni gyfieithu llyfryn ryseitiau ar gyfer ymgyrch Hybu Cig Oen a Chig Eidion Cymru ynghyd â sgriptiau hysbysebion teledu ar ei chyfer. Mae'r gwaith o gyfieithu ryseitiau bob amser yn tynnu dŵr i ddannedd y cyfieithydd ond mae hefyd yn gofyn am fod yn greadigol a defnyddio iaith mor syml â phosibl fel bod y sawl sy'n eu dilyn yn gallu canolbwyntio ar y coginio yn hytrach na cheisio dyfalu beth mae'r Gymraeg yn ceisio ei ddweud. Mae angen ymdrin â hysbysebion teledu mewn ffordd wahanol i gyfieithu papur oherwydd, er bod angen cynnal safon y Gymraeg, rhaid cofio mai ar lafar y clywir y geiriau a bydd yn rhaid dychmygu felly sut y bydd y testun yn swnio ar y sgrin fach. Yn yr achos hwn, llais cyfarwydd yr actor Matthew Rhys oedd i'w glywed yn adrodd ein testun.
John Lewis |
Prosiect
Marchnata a Chyngor Ieithyddol
Beth a wnaethom
Cyn i siop John Lewis agor ei drysau yng Nghaerdydd, cawsom gais i gyfieithu rhai taflenni gwybodaeth ac arwyddion. Yna, aethom draw yno i fwrw golwg dros yr arwyddion yn y siop gydag aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Ymgynghorwyd â'r staff a sicrhawyd bod yr arwyddion ym mhob adran yn gywir. Cawsom ganmoliaeth gan reolwraig y siop, a oedd wrth ei bodd gydag ymateb cwsmeriaid oedd yn siarad Cymraeg. Rydym yn parhau i gyfieithu i John Lewis, gan gynnwys cyfres o lythyrau gan Siôn Corn - prosiect a roddodd dipyn o foddhad i bawb a weithiodd arnynt!
Cyngor Cynulleidfa Cymru |
Prosiect
Gwasanaeth Cyfieithu ar y Pryd
Beth a wnaethom
Mae Cyngor Cynulleidfa Cymru (a Chyngor Darlledu Cymru cyn hynny) wedi bod yn defnyddio ein gwasanaethau ers dros 10 mlynedd. Ar gyfer y math hwn o gyfarfod bwrdd, defnyddiwn ein hoffer mawr lle y caiff microffonau eu gosod o amgylch y bwrdd a bydd y cyfieithydd yn eistedd y tu ôl i fwth yng nghornel yr ystafell, sy'n sicrhau na chaiff ei lais ei glywed o gwbl. Mae hyn yn galluogi'r cyfieithydd i newid microffonau yn dibynnu ar bwy sy'n siarad, sy'n sicrhau ei fod yn gallu clywed pawb yn glir. Gan fod y dyddiadau ar gyfer y cyfarfodydd hyn yn cael eu trefnu ymlaen llaw am y flwyddyn gyfan rydym yn gwybod yn union pryd y bydd ein hangen a gallwn sicrhau bod y cyfieithydd ar gael. Er mwyn sicrhau cysondeb o ran y gwasanaeth, bydd yr un cyfieithydd yn mynd i bob cyfarfod ac, felly, mae'n gwbl gyfarwydd â'r lleoliad, y rhai sy'n bresennol a'r mathau o bethau a gaiff eu trafod. Gwneir hyn gyda phob un o'n cleientiaid rheolaidd. Rhoddir clustffonau i'r rheini nad ydynt yn siarad Cymraeg fel eu bod yn gallu gwrando ar y cyfieithydd pan fydd rhywun yn siarad Cymraeg. A'r hyn a geir yw cyfarfod cwbl ddwyieithog a di-dor.
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru |
Prosiect
Hyfforddiant ar Feddalwedd Cof Cyfieithu Dêjà Vu X (DVX)
Beth a wnaethom
Cynhaliodd Cydgysylltydd Hyfforddiant DVX Prysg gyfres o Weithdai Hyfforddiant DVX ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Cafodd yr hyfforddiant ei gyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhencadlys y Gwasanaeth. Cafwyd cyfarfod rhagarweiniol i drafod y defnydd o Dêjà Vu X a'r disgwyliadau o ran hyfforddiant, fel bod modd i'r gweithdai gael eu teilwra i fodloni union ofynion y cleient. O'n profiad ni, ac o adborth cwsmeriaid, credwn mai sawl sesiwn fer sy'n gweithio orau, felly cafodd tri gweithdy eu cynnal dros gyfnod o ychydig fisoedd er mwyn galluogi swyddogion i roi'r hyn a ddysgwyd ar waith a chodi unrhyw gwestiynau yn y gweithdy nesaf. Roedd yr hyfforddiant yn rhyngweithiol ac yn ymarferol ac fe'i strwythurwyd i ganiatáu digon o amser ar gyfer cwestiynau.
Yn ogystal â hyfforddiant DVX mewnol, mae'r Cydgysylltydd hefyd wedi darparu hyfforddiant cychwynnol a hyfforddiant mireinio/uwch i swyddogion o uned gyfieithu Llywodraeth Cymru a'r Asiantaeth Safonau Bwyd, cynnal cyfarfodydd cynghori gyda swyddogion o Lywodraeth Cymru a CBAC ac mae wedi cymryd rhan mewn trafodaeth banel ar feddalwedd cof cyfieithu mewn cynhadledd undydd a gafodd ei threfnu ar y cyd gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor.