Cyfieithu ar y pryd
Mae gan Prysg dîm profiadol o gyfieithwyr ar y pryd. Defnyddir yr offer is-goch diweddaraf ac oni bai am fwrdd, cadair a chyflenwad trydan ni fydd angen poeni dim - yn wir bron na fyddwch yn sylwi ein bod ni yno!
Mae ein cleientiaid rheolaidd yn cynnwys:
- Cyngor Cynulleidfa Cymru (Ymddiriedolaeth y BBC)
- Bwrdd Ymddiriedolwyr Amgueddfa Genedlaethol Cymru
- Cam wrth Gam (Mudiad Meithrin)
- Prifysgol Metropolitan Caerdydd
- Ysgol Bro Morgannwg.
Gallwn ymgymryd â chyfarfodydd a digwyddiadau amrywiol, gan gynnwys:
- cyfweliadau
- gweithdai
- pwyllgorau bach
- ymgynghoriadau cyhoeddus
- cynadleddau mawr (100+ o bobl).
Gall ein tîm deithio i bob cwr o Gymru a thu hwnt. O gyfarfod pwyllgor tanddaearol ar safle Amgueddfa Lofaol Cymru i dderbynwest yn Oriel y Senedd rydym yn dîm hyblyg! Neu, er mwyn lleihau costau cleientiaid, gallwn hefyd droi at nifer fach o gyfieithwyr llawrydd dibynadwy o bob cwr o Gymru ar gyfer y digwyddiadau hynny sy'n dipyn o daith o Gaerdydd.
Prosiect
Gwasanaeth Cyfieithu ar y Pryd
Beth a wnaethom
Mae Cyngor Cynulleidfa Cymru (a Chyngor Darlledu Cymru cyn hynny) wedi bod yn defnyddio ein gwasanaethau ers dros 10 mlynedd. Ar gyfer y math hwn o gyfarfod bwrdd, defnyddiwn ein hoffer mawr lle y caiff microffonau eu gosod o amgylch y bwrdd a bydd y cyfieithydd yn eistedd y tu ôl i fwth yng nghornel yr ystafell, sy'n sicrhau na chaiff ei lais ei glywed o gwbl. Mae hyn yn galluogi'r cyfieithydd i newid microffonau yn dibynnu ar bwy sy'n siarad, sy'n sicrhau ei fod yn gallu clywed pawb yn glir. Gan fod y dyddiadau ar gyfer y cyfarfodydd hyn yn cael eu trefnu ymlaen llaw am y flwyddyn gyfan rydym yn gwybod yn union pryd y bydd ein hangen a gallwn sicrhau bod y cyfieithydd ar gael. Er mwyn sicrhau cysondeb o ran y gwasanaeth, bydd yr un cyfieithydd yn mynd i bob cyfarfod ac, felly, mae'n gwbl gyfarwydd â'r lleoliad, y rhai sy'n bresennol a'r mathau o bethau a gaiff eu trafod. Gwneir hyn gyda phob un o'n cleientiaid rheolaidd. Rhoddir clustffonau i'r rheini nad ydynt yn siarad Cymraeg fel eu bod yn gallu gwrando ar y cyfieithydd pan fydd rhywun yn siarad Cymraeg. A'r hyn a geir yw cyfarfod cwbl ddwyieithog a di-dor.