Y Cwmni
Cafodd Prysg ei sefydlu yn 1989 a thyfodd yn gyflym gan ennill contractau gan gleientiaid pwysig megis Bwrdd Croeso Cymru, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, CBAC a'r Swyddfa Gymreig.
Mae gan Prysg enw da iawn am ei broffesiynoldeb ac ansawdd ei waith sy'n cael ei adlewyrchu yn ein rhestr glodwiw o gleientiaid. Dros y blynyddoedd, rydym wedi bod yn gyfrifol am gyfieithu dogfennau cyhoeddus sensitif iawn gan gynnwys:
- Ymchwiliad Bichard i'r llofruddiaethau yn Soham
- Ar Goll mewn Gofal, yr adroddiad ar gam-drin plant mewn gofal yn hen ardaloedd cyngor sir Gwynedd a Chlwyd
- adroddiad Clywch a ddilynodd yr ymchwiliad i gam-drin plant mewn ysgol yn Ne Cymru.
Yn 2009, darparwyd gwasanaethau cyfieithu ysgrifenedig a chyfieithu ar y pryd i Bwyllgor Gweithredol Confensiwn Cymru Gyfan, sef y grŵp a fu'n gyfrifol am lywio'r ymgynghoriad cyhoeddus ar bwerau deddfu'r Cynulliad.
Mae Prysg yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn cyflogi tîm dynodedig o gyfieithwyr mewnol, y dechreuodd y rhan fwyaf ohonynt eu gyrfaoedd gyda ni, ac sydd wedi datblygu o fewn y cwmni. Mae hyn yn ein galluogi i drefnu amserlenni a dosbarthu prosiectau ar unwaith heb orfod gweld pa gyfieithwyr llawrydd a allai fod ar gael. Mae hefyd yn rhan allweddol o'n prosesau sicrhau ansawdd.
Mae Prysg wedi cyflawni prosiectau proffil uchel megis:
- cyfieithu deunydd ar gyfer Cyfrifiad 2001 a 2011 a oedd yn cynnwys pecynnau recriwtio, cynnwys ar y we a thaflenni gwaith addysgol
- cyfieithu a phrawfddarllen Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC yn unol ag amserlen dynn ers 10 mlynedd bellach
- cyfieithu a diweddaru gwefan helaeth DirectGov ar gyfer Llywodraeth y DU.