Staff
Ein staff yw ein prif gaffaeliad. Yn wir, mae'r rhan fwyaf o'n huwch gyfieithwyr wedi bod gyda Prysg ers dros 10 mlynedd.
Mae pob cyfieithydd ond un yn gweithio'n llawn amser yn y swyddfa yng Nghaerdydd ac mae hyn yn golygu y gallant ddechrau ar brosiect cyn gynted ag y caiff cais am waith ei gadarnhau. Mae hefyd yn galluogi'r tîm i fanteisio ar brofiad ac arbenigedd ei gilydd o fod o dan yr un to.
Rhoddir cryn bwyslais ar hyfforddi a datblygu'r gweithlu sy'n hanfodol o ran cyflawni potensial staff a datblygu o fewn y cwmni. Yn 2001, ni oedd y cwmni cyfieithu cyntaf yng Nghymru i ennill gwobr Buddsoddwr mewn Pobl ac rydym yn parhau i gyrraedd y safon honno.
Mae ein rhaglen hyfforddi hirsefydledig yn galluogi unigolion i gyrraedd eu llawn botensial ond, yn bwysig, nid yw'r hyfforddiant byth yn gorffen, gan fod pawb yn parhau i ddysgu a datblygu yn eu gwaith bob dydd. Mae arfarniadau staff blynyddol a chynlluniau hyfforddi unigol hefyd yn ategu hyn. Ystyrir gweithio hyblyg fesul achos unigol - mae ein systemau TG yn golygu bod modd gweithio 'o bell' - ac mae'r cwmni hefyd yn cynnig cynllun pensiwn personol a chynllun iechyd er budd staff.
Wrth gwrs, nid gwaith yw popeth. Trefnir nosweithiau cymdeithasol yn rheolaidd ac eir ati i godi arian i wahanol elusennau e.e. Plant mewn Angen a Macmillan. A chan fod cynifer o bobyddion brwd yn ein plith penderfynwyd sefydlu Clwb Cacennau sy'n boblogaidd iawn!
Mae'r cwmni yn recriwtio'n rheolaidd ac yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sydd am gael profiad gwaith neu unrhyw un sy'n awyddus i newid eu llwybr gyrfa.
Os hoffech ymuno â'r tîm, cysylltwch â ni.