Cyfieithu ysgrifenedig
Gall ein tîm o gyfieithwyr dynodedig ymdrin ag ystod eang o feysydd arbenigol o addysg i'r amgylchedd i iechyd a chyllid.
Mae pob cyfieithydd yn gyfrifol am sicrhau bod y cyfieithiad yn adlewyrchu'r ddogfen wreiddiol o ran:
- cynnwys
- arddull
- diwyg.
Hefyd, bydd uwch gyfieithydd yn bwrw golwg manwl dros bob cyfieithiad a gynhyrchir gan Prysg cyn iddo gael ei ddychwelyd. Mae'r math hwn o broses sicrhau ansawdd yn sicrhau bod y gwaith:
- yn gywir
- yn raenus
- yn ddarllenadwy.
Gan adlewyrchu datblygiadau technolegol ac er mwyn gwella effeithlonrwydd, defnyddiwn feddalwedd cof cyfieithu Déjà Vu X, sy'n sicrhau cysondeb - gwirio terminoleg yn erbyn y cof cyfieithu - ac yn gwella cynhyrchiant - gan gyflwyno gwaith yn brydlon.
Mae cyrraedd y safon uchaf yn rhan hanfodol o'n gwaith. Fel Aelod Corfforaethol o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, rydym yn rhannu nod y Gymdeithas o gyrraedd y safonau gorau posibl ym maes cyfieithu proffesiynol.